Tenantiaid

Eich taliad rhent yw un o’ch costau misol mwyaf ac os ydych chi’n wynebu anawsterau ariannol, gall fod yn anodd dal ati gyda’r taliadau hyn.

Boed chi’n rhentu’n breifat neu gan landlord cymdeithasol cofrestredig megis awdurdod lleol neu gymdeithas dai, gall Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru eich helpu. Gall ein cwnselwyr ddangos i chi sut mae gwneud y gorau o’ch incwm, sut mae llunio cyllideb a sut mae blaenoriaethu eich dyled gyda’r nod o gadw to uwch eich pen, yn ogystal â’ch cynghori ynghylch y ffordd orau o ddelio â’ch landlord.

Os ydych chi’n cael anawsterau wrth dalu eich rhent, y peth gorau yw siarad â’ch landlord a cheisio dod i gytundeb ynghylch talu’r ôl-ddyledion ar gyfradd y gallwch chi ei fforddio. Gall Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru eich helpu i wneud hyn. Ffoniwch ni nawr i drafod sut y gallwn eich helpu i gymryd camau cadarnhaol i wella eich sefyllfa.

Dolen at astudiaeth achos sy’n ymwneud ag ôl-ddyledion rhent - tudalen 4

Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.