Perchnogion Cartrefi

Mae’n debyg mai eich morgais yw un o’ch ymrwymiadau ariannol mwyaf. Ambell waith gall fod yn glynu wrth y taliadau hyn, ond oni fyddwch chi’n glynu wrthynt gall hyn arwain at achos llys, neu yn y sefyllfa waethaf, golli eich cartref.

Does dim rhaid i chi ddioddef mewn tawelwch…

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn poeni na fyddwch efallai’n gallu talu eich ad-daliad morgais y mis yma, gallwn eich helpu. Bydd cwnselydd hyfforddedig yn adolygu eich sefyllfa ariannol, gan eich helpu i lunio cyllideb, gwneud yn siŵr nad ydych yn colli unrhyw haliadau ac yn ystyried unrhyw ddyledion eraill a allai fod gennych chi. Ar ôl asesu eich sefyllfa ariannol yn drwyadl, bydd y cwnselydd yn argymell y ffordd orau ymlaen i chi, gan gynnwys sut mae delio â’ch cwmni morgais.

Os na allwch chi dalu'r arian sy'n ddyledus ar eich morgais, neu os ydych chi'n poeni am ddisgyn ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, mae'n bwysig cysylltu â darparwr eich benthyciad cyn gynted ag y bo modd ac egluro’r sefyllfa. Peidiwch ag anwybyddu’r broblem. Gorau po gyntaf y byddwch yn siarad â darparwr eich benthyciad, oherwydd gallai fod nifer o ffyrdd gwahanol y gallent eich helpu chi.

Ffoniwch Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru nawr i drafod sut y gallwn eich helpu i gymryd camau cadarnhaol i wella eich sefyllfa.


• Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ôl-ddyledion morgais (Dolen i Wefan y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr – Cwestiynau Cyffredin ynghylch morgeisi http://www.cccs.co.uk/faqs/Arrears.aspx)
• Dolen at astudiaeth achos sy’n ymwneud â morgais tudalen 4

Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.