Hafan
Mae Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru yn cynnig cefnogaeth i unigolion a theuluoedd sy’n ei chael yn anodd cwrdd â’u taliadau morgais neu rent.
Caiff y llinell gymorth ei rhedeg gan y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (dolen), elusen gofrestredig a sefydlwyd i ddarparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a realistig yn rhad ac am ddim i bobl sydd mewn anawsterau ariannol. Fe’i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (dolen) gyda chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru (dolen).
Cyngor Arbenigol
Mae cynghorwyr ar gael ar ben arall y ffôn sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i’ch helpu i ganfod ateb realistig i’ch problemau â dyledion tai. Mae gan gynghorwyr y llinell gymorth ddealltwriaeth drwyadl o gyngor am ddyledion ac maent wedi helpu miloedd o bobl mewn sefyllfaoedd tebyg.
Nid ydych ar eich pen eich hun
Mae dyled sy’n ymwneud â thai yn broblem gynyddol. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae mwy a mwy o bobl yn ei chael yn anodd talu eu morgeisi a’u rhent. Mae’n bwysig eich bod yn deall nad ydych ar eich pen eich hun, a bod cefnogaeth ar gael i drigolion yng Nghymru drwy Linell Gymorth Dyledion Tai Cymru.
Peidiwch ag anwybyddu’r broblem
Bydd anwybyddu eich problemau dyledion ond yn gwneud pethau’n waeth, a gall arwain at golli eich cartref. Drwy godi’r ffôn a chysylltu â Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru, gallwch ddechrau edrych ar y dewisiadau sydd ar gael a dod o hyd i ateb sy’n addas ar gyfer eich amgylchiadau.
Sut mae'r llinell gymorth yn gweithio?
Dros y ffôn bydd ein cynghorydd llinell gymorth yn asesu eich sefyllfa ac yn rhoi help a chyngor i chi ar unwaith neu mewn achosion sy’n fwy cymhleth, byddant yn cynnig apwyntiad cwnsela. Bydd cwnselwyr yn cynnal adolygiad llawn o’ch sefyllfa, ac yna’n gwneud argymhelliad. Bydd angen i chi roi gwybodaeth megis manylion eich dyledion, eich asedau, eich incwm a’ch costau byw. Gan fod y gwasanaeth hwn am ddim, ni fydd baich ffioedd yn gwaethygu eich sefyllfa o ran dyledion.
Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.