Llinell Gymorth Dyledion yn darparu cyngor diduedd am ddim

Mae Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru. Bydd yn darparu cyngor diduedd am ddim gan gynghorwyr dyledion profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn i unrhyw un a chanddynt ôl-ddyledion morgais neu rent, neu sydd dan fygythiad cael eu hadfeddiannu neu eu troi allan gan landlordiaid preifat a chymdeithasol ac yn wynebu colli eu cartrefi.

Pan fydd rhywun yn ffonio’r llinell gymorth, bydd cynghorydd yn cynnal asesiad o’r sefyllfa ar unwaith, a bydd hynny’n arwain at gymorth ar frys, os oes angen, neu gynnig apwyntiad cwnsela. Bydd un o ddau gynghorwr ymroddedig yn swyddfa CCCS Caerdydd yn cynnal adolygiad llawn o sefyllfa’r galwr ac yn argymell y cam gweithredu gorau. Bydd yr adolygiad yn cynnwys cymorth gyda chyllidebu, manteisio i’r eithaf ar incwm, rheoli ôl-ddyledion rhent a morgais a chyngor ar ddelio â phroblemau eraill yn ymwneud â dyledion. Os bydd angen cyngor pellach arnynt, gellir eu cyfeirio at asiantaeth arall, yn lleol, a all ddarparu cefnogaeth yn benodol i anghenion y bobl hynny.

Comisiynwyd y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn llwyddiant y prosiect Achub o Ddyled a Chyngor Ariannol a oedd yn cysylltu gwasanaethau undeb credyd â chyngor a chefnogaeth gyda dyledion am ddim, a gafodd ei hyrwyddo a’i weinyddu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Gellir ffonio Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru ar 0800 107 1340 rhwng 8am a 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. I gael mwy o wybodaeth, ewch ar-lein i www.housing-debt-helpline-wales.org
 


Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.