Lansio llinell gymorth dyledion tai ar gyfer Cymru

Mae Dr Brian Gibbons AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai, wedi lansio Llinell Gymorth Dyledion Tai newydd sy’n rhoi cyngor am ddim i denantiaid a pherchnogion tai yng Nghymru sy’n cael trafferth cadw to uwch eu pennau.

Gall unrhyw un sy’n byw yng Nghymru gael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio 0800 107 1340. Caiff y llinell gymorth ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda chymorth gan brif elusen dyledion y DU, y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS), a fydd yn rhedeg y llinell gymorth, a Chanolfan Cydweithredol Cymru a fydd yn sicrhau bod y bobl hynny y mae angen cyngor arnynt yn ymwybodol o’r llinell.

Bydd y llinell gymorth yn darparu cyngor diduedd am ddim gan gynghorwyr dyledion profiadol i unrhyw un a chanddynt ôl-ddyledion morgais neu rent, neu sydd dan fygythiad cael eu hadfeddiannu neu eu troi allan gan landlordiaid preifat a chymdeithasol ac sy’n wynebu colli eu cartrefi. Y nod yw cadw to uwch bennau pobl lle bynnag y bo’n bosibl.

Dywed y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons:

“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’r Llinell Gymorth Dyledion Tai yn ffordd ymarferol iawn o ddangos sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi help i’r rheini y mae mwyaf ei angen arnynt.

“Mae’r buddsoddiad y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud mewn cynhwysiant ariannol yn amlwg yn effeithio ar ganlyniadau ond er mwyn gwella ar hyn mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd fel y gellir helpu cynifer o’n pobl agored i niwed â phosibl gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael.

“Mae’r Llinell Gymorth yn adnodd gwerthfawr o ran lleihau nifer yr achosion o adfeddiannu a throi allan. Yr wyf yn hyderus y bydd yn helpu llawer o bobl i gadw eu cartrefi, yn atal digartrefedd ac yn cynnig ateb hirdymor cynaliadwy.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Dai, Jocelyn Davies AC:

“Mae mynd i’r afael â dyledion a digartrefedd yn flaenoriaethau uchel i Lywodraeth y Cynulliad.

“Rwy’n cymeradwyo ymdrechion Canolfan Cydweithredol Cymru a’r Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr am roi’r gwasanaeth hwn ar waith.

“Dymunaf bob llwyddiant i’r gwasanaeth gyrraedd ei nod o helpu pobl i gadw eu cartrefi, nod yr ydym oll yn ei gefnogi.”
 


Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.