Cylchlythyr Gorffenaf 2009


  • Lansio llinell gymorth dyledion tai ar gyfer Cymru

    Mae Dr Brian Gibbons AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai, wedi lansio Llinell Gymorth Dyledion Tai newydd sy’n rhoi cyngor am ddim i denantiaid a pherchnogion tai yng Nghymru sy’n cael trafferth cadw to uwch eu pennau.

    ...
    Darllen mwy »
  • Llinell Gymorth Dyledion yn darparu cyngor diduedd am ddim

    Mae Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru. Bydd yn darparu cyngor diduedd am ddim gan gynghorwyr dyledion profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn i unrhyw un a chanddynt ôl-ddyledion morgais neu rent, neu sydd dan fygythiad cael eu hadfeddiannu neu eu troi allan gan landlordiaid preifat a chymdeithasol ac yn wynebu colli eu cartrefi.

    ...
    Darllen mwy »
  • Gall unrhyw un fynd i Ddyled Tai

    Gall pobl fynd i ddyled tai am amrywiaeth o resymau:

    • Newid mewn amgylchiadau megis colli swydd, salwch neu berthynas yn dod i ben
    • Cael credyd/morgeisi cost uchel gan fenthycwyr nad ydynt yn draddodiadol a’i warantu ar eu cartrefi
    • Benthyca gormod yn ystod y chwyldro tai.

    ...
    Darllen mwy »
  • Adnoddau

    Os ydych yn gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o fynd i ddyled tai, ac yr hoffech hyrwyddo gwasanaeth Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru, gallwn roi taflenni a phosteri i chi. Ffoniwch 029 2055 4955 neu anfonwch e-bost at maureen.russell@walescoop.com a dywedwch wrthym faint o gopïau y mae eu hangen arnoch.

    ...
    Darllen mwy »
  • Dolenni i Wefan

    Beth am greu dolen i’n gwefan, http://www.housing-debt-helpline-wales.org? Os gallwch roi cymorth i bobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi, dywedwch wrthym ac fe wnawn greu dolen yn ôl i’ch gwefan chi hefyd. Cysylltwch ag Aimee Shanahan ar 029 2955 4955 neu anfonwch e-bost at aimee.shanahan@walescoop.com

    ...
    Darllen mwy »
  • Cyflwyniadau sydd ar gael

    Os hoffech gael gwybod mwy am Linell Gymorth Dyledion Tai Cymru, mae Mark Robinson, Rheolwr y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr yng Nghaerdydd, yn fwy na pharod i wneud cyflwyniadau ar y gwasanaeth i fudiadau yn Ne Ddwyrain Cymru. I drefnu ymweliad gan Mark, cysylltwch ag ef ar 029 2066 6432.

    www.housing-debt-helpline-wales.org
     

    ...
    Darllen mwy »

Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.