Wynebu eich dyledion
Mae Jack a Kerry yn gwpl sy’n berchen eu cartref eu hunain ac maent yn eu 30au cynnar ac o Abertawe. Roedd y ddau wedi dechrau mynd i drafferthion gyda’u dyledion pan gollodd Jack ei swydd fel rheolwr ffatri. Mae Kerry yn dal i weithio fel rheolwraig mewn asiantaeth teithio, ond serch hynny, mae eu hincwm misol wedi disgyn yn sylweddol. Maent yn awr yn mynd ag oddeutu £2,000 gartref, gan gynnwys budd-daliadau diweithdra.
Mae’r lleihad yn incwm Jack a Kerry wedi golygu nad ydynt wedi gallu ymateb yn llawn i ofynion y credydwyr a dal ati i dalu eu dyledion blaenoriaeth megis eu morgais, a’u costau byw, ac maent wedi disgyn i ôl-ddyledion. Gyda dim ond ychydig bach o arian yn weddill ar ddiwedd bob mis i dalu eu dyledion cardiau credyd sydd ar gynnydd, a oedd bron wedi cyrraedd £18,000, roeddent yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
Roedd Kerry yn gwybod bod mwy o arian yn mynd allan nag oedd yn dod i mewn, ac felly roedd eisoes wedi trefnu i roi’r gorau i gyfrannu at ei phensiwn a newid rhywfaint o forgais y cwpl i gytundeb “llog yn unig”, i gynyddu eu hincwm gwario. Roedd y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr wedyn yn gallu ei helpu i adeiladu swm ychwanegol yn ei chyllideb fisol i ad-dalu ôl-ddyledion eu morgais, biliau trydan a dŵr ac wedyn lluniodd Gynllun Rheoli Dyledion iddynt a fydd yn para am oddeutu saith mlynedd ac yn sicrhau eu bod yn ad-dalu eu dyledion yn llawn.
Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.