Gwybod lle rydych chi'n sefyll
Mae Joe a Lesley yn gwpl canol oed o Aberhonddu sy’n berchen ar eu cartref eu hunain ac mae ganddynt bedwar o blant. Rhyngddynt, maent yn ennill ychydig dros £2,000 y mis.
Mae Joe a Lesley yn wastad wedi bod yn eithaf blasé am arian, gan wario'r hyn mae arnynt eisiau ei wario a phan mae arnynt eisiau ei wario fel rheol. Nid ydynt erioed wedi llunio cyllideb iawn yn y gorffennol, ac mae peidio â rheoli eu harian wedi achosi eu sefyllfa bresennol. Mae ganddynt dros £3,000 o ôl-ddyledion morgais, ac mae ganddynt fenthyciad sydd wedi’i ddiogelu yn erbyn eu tŷ sydd werth bron i £1,000. O ganlyniad, maent yn wynebu risg sylweddol o adfeddiannu.
Pan gysylltodd Joe a Lesley â’r Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr, lluniodd yr elusen gyllideb iddynt a’u cynghori i gynnig talu £100 y mis dros 28 mis tuag at eu morgais a £50 dros 12 mis tuag at eu benthyciad a oedd wedi’i ddiogelu. Roedd y rheini roedd arnynt arian iddynt yn cytuno, a oedd yn golygu bod modd i’r cwpl gael Cynllun Rheoli Dyledion. Ar ôl clirio eu hôl-ddyledion benthyciad a morgais, mae hyblygrwydd eu Cynllun Rheoli Dyledion yn golygu y byddant yn gallu cynyddu eu taliadau Cynllun Rheoli Dyledion i fynd i’r afael â dyledion cardiau credyd sy’n ddyledus, a byddant wedi clirio eu dyledion mewn cyfnod rhesymol.
Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.