Cael eich gwynt atoch
Mae John ac Anna yn gwpl priod canol oed sy’n berchen ar dŷ yn Wrecsam, ac sy’n magu mab a merch yn eu harddegau. Yn ddiweddar, gorfodwyd John i ostwng nifer ei oriau gwaith, wrth i’r busnes mae’n gweithio iddynt frwydro drwy’r dirwasgiad. Bellach, mae eu hincwm misol tua £2,200 rhyngddynt.
Mae gan John ac Anna £125,000 yn weddill ar forgais llog yn unig ond, gan eu bod mewn trafferthion ar ôl y gostyngiad yn eu hincwm, maent bellach mewn ôl-ddyledion ers tri mis, sy’n gyfanswm o £2,500. Mae ganddynt hefyd £1,200 yn ddyledus mewn ôl-ddyledion y dreth gyngor, ac maent yn wynebu’r beilïaid gyda’r swm sy’n ddyledus. Mae ganddynt hefyd £15,000 yn ddyledus i gardiau credyd a dyledion eraill, ond dim ond £200 y mis sydd ganddynt yn weddill i wneud ad-daliadau.
Mae gan y cwpl hefyd ychydig bach o gynilion, ond nid oes ganddynt ecwiti yn eu heiddo. Fodd bynnag, maent yn disgwyl etifeddu swm o arian sydd fwy neu lai’n cyfateb i’w dyledion sydd heb eu gwarantu. Fodd bynnag, mae dadlau cyfreithiol yn achosi oedi gyda’r broses hon, ac roedd angen i John ac Anna fynd i’r afael â’u dyledion ar unwaith oherwydd y beilïaid.
Y bygythiad o orfod wynebu’r beilïaid a anogodd John i gysylltu â’r Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS). Ar ôl dadansoddi eu cyllideb fisol yn llawn, cynghorodd CCCS iddynt dalu dros hanner eu treth gyngor ar unwaith gan ddefnyddio eu cynilion; byddant yn cynnig taliadau o £70 y mis am 9 mis er mwyn talu’r gweddill fel rhan o Gynllun Rheoli Dyledion tair blynedd, a fydd yn rhoi cyfle iddynt gael eu gwynt atynt. Pan gaiff y materion sy’n ymwneud â’u hetifeddiaeth eu datrys, gallant ddefnyddio hwn i glirio eu dyledion yn llawn.
Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.