Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun

Mae Claire yn rhiant sengl sy’n byw gyda’i dau fab ifanc mewn tŷ rhent yng Nghaerdydd. Collodd ei swydd flaenorol ac roedd ganddi ôl-ddyledion gwerth oddeutu £1,000 ar ei rhent, ond mae hi nawr wedi cael gwaith rhan amser yn gweithio yn nerbynfa busnes lleol. Gan gynnwys budd-daliadau, mae incwm Claire yn £1,300 y mis.

Doedd Claire byth yn gwario llawer, ac roedd y rhan fwyaf o’i harian yn mynd at gefnogi ei phlant, yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr hyn yr oedd ei angen arnynt a thalu eu ffordd drwy'r ysgol. Ar ôl colli ei swydd, roedd Claire yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd felly defnyddiodd gredyd i gau'r bwlch. Roedd ganddi bron i £5,000 o ddyledion i amrywiol gredydwyr o ganlyniad i hyn.

Ar ôl i Claire sylweddoli nad oedd ei harferion gwario yn gynaliadwy, cysylltodd â’r Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr, a oedd yn gallu ei helpu i lunio cyllideb fanwl, dadansoddi ei hincwm a'i gwariant a dod o hyd i gynllun ad-dalu ymarferol. Cynigodd dalu £10 yr wythnos i’w landlord er mwyn ad-dalu ei hôl-ddyledion rhent yn raddol, a derbyniodd y landlord hynny. Gan fod gweddill ei chostau yn weddol gyfartal i’w hincwm, mae hi’n gwneud cynigion o bryd i’w gilydd i’w chredydwyr eraill.

Mae Claire yn parhau i wneud hyn nes iddi gael adolygiad budd-daliadau mewn tri mis, pan fydd y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr yn adolygu ei sefyllfa ac yn dod o hyd i ateb sy’n briodol i’w sefyllfa. Mae’n debygol y bydd hi’n gallu gwneud cais am Orchymyn Rhyddhad Dyledion, math gweddol newydd o ryddhad dyledion, a ddyluniwyd yn benodol i helpu dyledwyr heb ddim asedau a fyddai’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r ffioedd i fod yn fethdalwr.


Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.