Astudiaethau Achos?
Dyma rai enghreifftiau o bobl sydd wedi elwa o gyngor y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr. Er bod y sefyllfaoedd a ddisgrifir yn rhai go iawn, mae’r enwau wedi cael eu newid i amddiffyn cyfrinachedd yr unigolion.
-
Wynebu eich dyledion
Mae Jack a Kerry yn gwpl sy’n berchen eu cartref eu hunain ac maent yn eu 30au cynnar ac o Abertawe. Roedd y ddau wedi dechrau mynd i drafferthion gyda’u dyledion pan gollodd Jack ei swydd fel rheolwr ffatri. Mae Kerry yn dal i weithio fel rheolwraig mewn asiantaeth teithio, ond serch hynny, mae eu hincwm misol wedi disgyn yn sylweddol. Maent yn awr yn mynd ag oddeutu £2,000 gartref, gan gynnwys budd-daliadau diweithdra.
...
Darllen mwy » -
Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun
Mae Claire yn rhiant sengl sy’n byw gyda’i dau fab ifanc mewn tŷ rhent yng Nghaerdydd. Collodd ei swydd flaenorol ac roedd ganddi ôl-ddyledion gwerth oddeutu £1,000 ar ei rhent, ond mae hi nawr wedi cael gwaith rhan amser yn gweithio yn nerbynfa busnes lleol. Gan gynnwys budd-daliadau, mae incwm Claire yn £1,300 y mis.
...
Darllen mwy » -
Cael eich gwynt atoch
Mae John ac Anna yn gwpl priod canol oed sy’n berchen ar dŷ yn Wrecsam, ac sy’n magu mab a merch yn eu harddegau. Yn ddiweddar, gorfodwyd John i ostwng nifer ei oriau gwaith, wrth i’r busnes mae’n gweithio iddynt frwydro drwy’r dirwasgiad. Bellach, mae eu hincwm misol tua £2,200 rhyngddynt.
...
Darllen mwy » -
Gwybod lle rydych chi'n sefyll
Mae Joe a Lesley yn gwpl canol oed o Aberhonddu sy’n berchen ar eu cartref eu hunain ac mae ganddynt bedwar o blant. Rhyngddynt, maent yn ennill ychydig dros £2,000 y mis.
...
Darllen mwy »
Chefais iI byth fy ngwneud i deimlo cywilydd nac embaras, dim ond i deimlo bod yna ffordd allan o'r sefyllfa hon a'ch bod yno i helpu lle bynnag y gallech.